Bwthyn moethus wedi ei adnewyddu ar ystad yng
nghefn gwlad Ynys Môn. Edrychwch ar ein gwefan i gael
mwy o wybodaeth a manylion cysylltu. Arferai'r bwthyn hardd
yma fod yn rhan o ystad yn y gorffennol, ond yn 2007 codwyd
estyniad newydd a chafodd ei adnewyddu drwyddo draw i safon
uchel.

Mae'r cyntedd yn eich arwain i stafell fyw groesawgar
sydd wedi'i dodrefnu i safon uchel iawn gyda pheintiadau a
phrintiau a detholiad o lyfrau.
Yn ogystal â'r gwres dan y llawr, mae
stof dân nwy draddodiadol ar gyfer misoedd oer y gaeaf
fel y gallwch chi ymlacio'n braf ar ôl bod yn cerdded
neu' n ymweld â'r ardal.
Mae'r gegin/stafell fwyta'n stafell eang ac
ysgafn gyda llawr teils a gwres dan y llawr. Gallwch ddewis
bwyta y tu mewn neu gallwch agor y drysau Ffrengig sy'n arwain
o'r gegin i'r patio cysgodol, a bwyta allan. Mae cadeiriau
a dodrefn patio ar gael.
Mae stafell gotiau/amlbwrpas ar wahân gyda digonedd o le i gadw pethau, a pheiriant golchi a sychwr dillad.
Stafell molchi eang a moethus yn cynnwys cawod, bath, toiled a basn molchi. Gwres dan y llawr, rheilen gynnes i ddal tyweli a 2 ddrych mawr.
Mae tair llofft yn Tegfryn, ac mae pob un ohonynt
wedi'u haddurno'n chwaethus mewn steil arbennig gyda gwelâu
o safon arbennig.
|