Arferai'r
bwthyn hardd yma fod yn rhan o ystad yn y gorffennol,
ond yn 2007 codwyd estyniad newydd a chafodd ei adnewyddu
drwyddo draw i safon uchel.
Mae'r tu mewn a'r golygfeydd ohono'n werth
eu gweld.
Nosweithiau clyd o flaen y tân...
Mae'r tu mewn wedi'i ddodrefnu i safon uchel iawn -
gyda stafell fyw gyfforddus a chroesawgar a chegin fawr,
fodern. Mae tair stafell wely, stafell molchi foethus
a thu allan mae patio braf a gardd fawr gyda golygfeydd
dros y caeau i gyfeiriad y môr. Dim ond pum munud
o daith yw Traeth Lligwy, un o draethau harddaf Ynys
Môn.
'Rydym yn cynnig
Lle i gysgu i 5 pobl
Dodrefn Derw Cymreig
Gwelâu o safon
Gwres dan y llawr
Tyweli moethus
Teledu LCD a chwaraewr DVD
Llyfrau a gemau
Gardd breifat a dodrefn gardd
Barbeciw nwy
Digonedd o le parcio
Dim ysmygu yn y bwthyn
|